P-04-429
: Ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac
Aberystwyth
Geiriad y
ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.
Rydym o’r farn bod hyn yn hanfodol ar gyfer cymunedau
lleol ac economi Cymru oherwydd bydd yn galluogi pobl a
gwasanaethau i gael eu cludo i ardaloedd sydd wedi’u hynysu
fel arall.
Bydd hyn yn cefnogi’r economïau lleol ac yn creu cyswllt
teithio llyfnach rhwng y Gogledd a’r De. Ar hyn o bryd,
mae’n rhaid teithio drwy Loegr er mwyn cael cysylltiadau
trên rhwng y Gogledd a’r De.
Prif
ddeisebydd: Mark
Worrall
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 6
Tachwedd 2012
Nifer y llofnodion: 1191